Enghraifft o: | swydd ![]() |
---|---|
Math | police commissioner, swydd ![]() |
Rhagflaenydd | police authority ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![]() |
Crëwyd swyddi Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, gydag etholiadau yn cael eu cynnal am y tro cyntaf ar 15 Tachwedd 2012. Cynrychiolydd wedi ei ethol yw'r comisiynydd, sydd â chyfrifoldeb dros gadarnhau bod yr heddlu yn gweithredu yn effeithlon ac effeithiol mewn ardal blismona; maent yn disodli'r awdurdodau heddlu. Nid yw hyn yn effeithio ar Lundain sydd â threfniadau ar wahân, na'r Alban a Gogledd Iwerddon lle mae'r plismona wedi cael ei ddatganoli, a'r cyfrifoldeb gyda Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r Gweinidog Cyfiawnder yng Ngogledd Iwerddon mewn swydd debyg.
Ni ddylid cymysgu swydd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, gyda'r rheng heddwas "Comisiynydd", a ddelir gan y prif swyddog heddlu yn yr Heddlu Metropolitan a Heddlu Dinas Llundain (sy'n gwasanaethu'r ddwy ardal blismona yn Llundain).